Ysgol Eco

Hafan > Ysgol > Ysgol Eco

Ysgolion Gwyrdd Gwynedd a Mon

Rydym fel ysgol wedi ymrwymo i’r cynllun uchod.
Prif nod y Cynllun Ysgolion Gwyrdd Gwynedd a Mon yw cynorthwyo ysgolion y siroedd i fabwysiadu pynciau a gweithgareddau i warchod yr amgylchedd fel rhan ganolog o fywyd pob dydd yr ysgol ac i:

  • Godi ymwybyddiaeth o’r angen i ofalu am ein hamgylchedd
  • Fod yn fwy darbodus y nein defnydd o’r amgylchedd a rhwystro llygredd yn ein hardal.
  • Gydweithio i wella ein hamgylchedd.

Mae tri rhan i’r cynllun Y Wobr Efydd, Y Wobr Arian a’r Wobr Aur ac fel y cwblheir y camau bydd yr ysgol yn derbyn tystysgrif a gwobr amgylcheddol. Mae’r ysgol wedi cwblhau pob cam ac wedi derbyn y wobr aur dros y 5 mlynnedd ddiwethaf.