Polisi Preifatrwydd
Hafan > Polisi Preifatrwydd
Yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (General Data Protection Regulations) (GDPR) a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018, mae’r hysbysiad hwn yn nodi beth mae Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol ac Ysgol Waunfawr yn ei wneud gyda gwybodaeth bersonol a pherfformiad plant a phobl ifanc, ac unrhyw wybodaeth bersonol sy’n ymwneud â chi fel rhiant / gwarcheidwad. Bydd yr wybodaeth yn yr hysbysiad hwn yn cael ei adolygu er mwyn cynnwys unrhyw newidiadau pellach a ddarparwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae'r categorïau gwybodaeth am ddisgyblion yr ydym yn eu casglu, eu dal a'u rhannu yn cynnwys:
- Gwybodaeth bersonol (megis enw, rhif unigryw disgybl a chyfeiriad)
- Nodweddion (megis ethnigrwydd, iaith, cenedligrwydd, gwlad enedigol a chymhwysedd pryd ysgol am ddim)
- Gwybodaeth am bresenoldeb (megis nifer y sesiynau a fynychwyd, nifer yr absenoldebau a rhesymau dros absenoldeb)
- Gwybodaeth am asesiadau
- Gwybodaeth feddygol berthnasol
- Gwybodaeth am Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Gwybodaeth am waharddiadau/ymddygiad
- Gwybodaeth bersonol am rieni'r disgybl a/neu berthnasau eraill (megis enw, manylion cyswllt, perthynas â'r plentyn)
Pam yr ydym yn casglu a defnyddio'r wybodaeth hon
Rydym yn defnyddio data disgybl:
- i gefnogi addysg y disgybl
- i fonitro ac adrodd ar gynnydd y disgybl
- i ddarparu gofal bugeiliol priodol
- i asesu ansawdd ein gwasanaethau
- i gydymffurfio â’r gyfraith ynglŷn â rhannu data
- i rannu data ar gyfer archwiliadau statudol a dibenion archwilio
Y sail gyfreithlon pam yr ydym yn defnyddio'r wybodaeth hon
Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am ddisgyblion, staff a llywodraethwyr dan
- Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 2011
- Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Disgybl) (Cymru) 2011-15
- Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011-19
- Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 2011
- Rheoliadau Addysg (Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion) (Cymru) 2011
- Deddf Cyflogau a Thelerau Gwaith Athrawon 1991
- Cytundebau cyfunol Cenedlaethol Rhwng Cyngor Awdurdod Addysg Lleol ac Undebau Athrawon Cydnabyddedig
- Cytundebau Cyfunol Lleol Rhwng Awdurdod Addysg Gwynedd ac Undebau a Gydnabyddir gan yr Awdurdod ar gyfer trafodaethau ar ran Athrawon.
- Deddf Diogelu Data 1998
- Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012
- Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol A’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
- Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014
- Ddeddf Iechyd a Diogelwch Wrth Waith ayb1974 (Health and Safety at Work, etc. Act, 1974)
- Deddf Cydraddoldeb / Equality Act 2010
- Gorchymyn Rheoleiddio (Diogelwch Tan)2005/ Regulatory Reform (Fire Safety) Order 2005 ( ffurflenni PEEPS yn cael eu cwblhau ac mae rhain yn cynnwys manylion unrhyw anableddau sydd gan blentyn/staff)
- Erthygl 6(c) ac (e) ac Erthygl 9 (g) (GDPR)
- Gallwn hefyd ddefnyddio caniatâd ar adegau (e.e. ffotograffau)
Casglu gwybodaeth am ddisgyblion
Er bod y mwyafrif o wybodaeth am ddisgybl yr ydych yn ei darparu i ni yn orfodol, darperir ychydig ohoni i ni ar sail wirfoddol.
Er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data, byddwn yn eich hysbysu p'un a fydd yn ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth benodol i ni am ddisgybl neu os oes gennych ddewis yn hyn.
Os darperir gwybodaeth i ni ar sail wirfoddol, byddwn yn gofyn i chi roi caniatâd penodol ac yn rhoi'r opsiwn i chi dynnu'r caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.
Cadw data am ddisgyblion
Rydym yn cadw data am ddisgyblion am gyfnodau amrywiol o amser yn dibynnu beth yw'r wybodaeth. Mae cyfnodau cadw wedi'i gynnwys ym mholisi diogelu data yr ysgol.
Gyda phwy yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion
Rydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion yn rheolaidd gyda:
- ysgolion a fynychwyd gan y disgyblion ar ôl ein gadael
- ein hawdurdod addysg lleol - Cyngor Gwynedd – Gwasanaethau - Cymdeithasol, Hamdden, Cludiant, Cyllid, Ieuenctid.
Asiantaethau a gomisiynir gennym i ddarparu gwasanaethau ar ein rhan:
- Llywodraeth Cynulliad Cymru (drwy HWB)
- Byrddau Arholi
- Colegau Addysg Bellach
- Prifysgol Bangor, a sefydliadau eraill addysg Uwch yn Nghymru a Prydain fawr a phrifysgolion sydd yn rhan o rhaglen SEREN Llywodraeth Cymru
- Cwmni Cynnal/Gwe
- Heddlu a Thîm Troseddu’r Ifanc
- Gwasanaethau Iechyd
- Antur Waunfawr (gwaredu deunyddiau cyfrinachol)
Cwmnïau Perthnasol sy’n hybu gweinyddiaeth a phrofiadau addysg disgyblion:
- Urdd Gobaith Cymru
- CAPITA - SIMS
- PIXEL
- Schow my Home work
- Class Charts
- School Gateway
- FFTrust
- ALPs
- INCERTS
- Text to parents
- Parent Mail
- Cunninghams – school meals
- EVOLVE
- Easy Trip
- Purple Mash
- Reading egg
- My Maths
- TT Rock Stars
Pam yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion:
Nid ydym yn rhannu gwybodaeth am ein disgyblion gydag unrhyw un heb ganiatâd, oni bai bod y gyfraith a'n polisïau yn caniatáu i ni wneud hynny.
Rydym yn rhannu data am ddisgyblion gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) ar sail statudol. Mae rhannu data yn y modd hwn yn tanategu cyllid yr ysgol a pholisi a monitro cyrhaeddiad addysgol.
Ysgolion a gynhelir:
Mae'n ofynnol i ni rannu gwybodaeth am ein disgyblion gyda'n hawdurdod lleol (ALl) Cyngor Gwynedd a Llywodraeth y Cynulliad dan: Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Disgybl) (Cymru) 2011 15
Gofynion casglu data:
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Disgybl) (Cymru) 2011
Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 2011
Gofyn am fynediad at eich data personol
Dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan rieni a disgyblion yr hawl i ofyn am fynediad at y wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanynt. Er mwyn gwneud cais am eich gwybodaeth bersonol, neu ofyn am fynediad at gofnod addysgol eich plentyn, cysylltwch â Bethan Wyn Jones (Pennaeth)
Swyddog Diogelu Data Ysgolion
Cyngor Gwynedd
Stryd y Castell
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
Mae gennych hefyd yr hawl i:
- wrthwynebu i ddata personol gael ei brosesu sy'n debygol o achosi, neu sy'n achosi, niwed neu ofid
- atal unrhyw beth rhag cael ei brosesu er dibenion marchnata uniongyrchol
- gwrthwynebu i benderfyniadau gael eu gwneud gan ddulliau awtomataidd
- cywiro, rhwystro, dileu neu ddinistrio data personol anghywir, mewn amgylchiadau penodol; a
- hawlio iawndal am y niwed a achoswyd o ganlyniad i dorri rheoliadau Diogelu Data
Os oes gennych bryder ynglŷn â'r modd yr ydym yn casglu neu'n defnyddio eich data personol, gofynnwn i chi nodi eich pryder gyda ni i ddechrau. Fel arall, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy https://ico.org.uk/concerns/
Cysylltu
Os hoffech drafod unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â:
Pennaeth Ysgol Waunfawr: Mrs Bethan Wyn Jones neu cysylltwch a:-
Swyddog Diogelu Data Ysgolion
Cyngor Gwynedd
Stryd y Castell
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH