Y Gymuned
Hafan > Y Gymuned
Mae pawb yn Ysgol Waunfawr yn ymwybodol o bwysigrwydd y gymuned. Mae perthynas arbennig rhwng yr ysgol a'r gymuned leol ac amlygir y cysylltiad mewn amryfal ffyrdd. Amlygir y diddordeb cymunedol byw hwn pan gynhelir achlysuron yn enw'r ysgol, boed dathliad, apêl, perfformiad neu wasanaeth, ac mae adroddiadau o'r digwyddiadau amrywiol hyn yn ogystal â chofnod o lwyddiannau unigolion yn rhan hanfodol o gynnwys misol y papur bro.
Cynhelir nifer o weithgareddau yn y Gymuned. Megis canu carolau yn yr Antur ddiwedd mis Tachwedd, difyrru aelodau Sefydliad y Merched ddydd Gwyl Dewi a chefnogi Eisteddfod Bentref Waunfawr.
Mae gennym gysylltiad agos âg Antur Waunfawr. Bydd ein ffrindiau o’r Antur hefyd yn cyd-weithio â’r plant bob gwanwyn i ddatblygu gardd yr ysgol ac i ofalu am y blychau planhigion yn yr ardd a ger mynedfa’r ysgol. Rydym hefyd yn cefnogi cynllun Ail gylchu dillad gyda’r Antur, cesglir dillad yn y bin glas yn dymhorol.