Ysgol

Hafan > Ysgol

Mae'r ysgol yn bodoli i ddathlu cyflawniadau plant ac i’w datblygu fel unigolion sydd yn gwerthfawrogi eu hamgylchfyd yn ei gyfanrwydd. Rhoddir pwys ar ddatblygu gwerthoedd moesol a dyngarol, gan feithrin hunan-barch a goddefgarwch tuag at eraill. Ymdrechir i sicrhau bod pob disgybl yn teimlo’n hapus a diogel o fewn cymdeithas ddisgybledig sy’n rhoi bri yn ei bywyd a’i gwaith.

Rhoddir pwyslais ar gynnal a chodi safonau cyflawniad disgyblion ym mhob maes cwricwlaidd, er mwyn rhoi’r cyfle i bob disgybl gyrraedd ei lawn botensial, ond rhaid cofio bod cyfrifoldeb gan yr ysgol am fwy nag addysgu’r plant a dylid meddwl amdanynt yn eu cyfanrwydd, fel bodau unigryw a chanddynt eu hanghenion arbennig eu hunain. Mae angen felly datblygu gwerthfawrogiad o'r moesol, y moesgar, y corfforol a’r diwylliannol ac o etifeddiaeth, o draddodiadau ac o iaith y genedl Gymreig a'i lle yn, a'i pherthynas gyda gweddill y byd.

Er mwyn cyflawni hyn rhaid sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal ar draws y cwricwlwm. Cyflwynir cwricwlwm eang, cytbwys a chyfoethog i’r plant, gan gynnig iddynt brofiadau real sy’n cyfleu bywyd go iawn. Defnyddir dulliau dysgu ac addysgu ac adnoddau o’r ansawdd uchaf, fydd yn cynorthwyo disgyblion i ddatblygu meddyliau ymchwilgar a bywiog, y gallu i gwestiynu a thrafod yn rhesymegol, i ddatrys problemau real ac i weithio'n annibynnol. Ymdrechir i wneud hyn o fewn cynefin ac awyrgylch agored croesawgar, chwaethus, hapus, teuluol a chartrefol.

Golyga hyn fod y plant yn cael eu hysbrydoli ac er mwyn iddynt gyrraedd a chyflawni eu llawn potensial rhaid addysgu plentyn i addysgu ei hun drwy roi rhan weithredol iddi/o yn y broses honno. Rhaid pwysleisio'r pwysigrwydd o roi clust a sylw teilwng i bawb, gan bawb, a hefyd i blant gael cyfle i ymateb yn synhwyrol a gydag ymresymiad personol i amrywiol gynulleidfaoedd.

Mae'n hanfodol bwysig parchu plant, eu syniadau a'u cynnyrch, drwy rannu eu llwyddiannau ag eraill, a datblygu hunan barch a hyder drwy osod esiampl o'r safon uchaf bosibl.

Er mwyn cyflawni'r hyn oll mae'n rhaid cynllunio'n drwyadl polisïau, cynlluniau a dulliau dysgu ysgol gyfan a dosbarthiadau unigol, wedi ymgynghoriad rhwng a gyda'r athrawon, y llywodraethwyr a'r A.A.Ll.