Privacy Policy

Home > Privacy Policy

(Translation Coming Soon)

Yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (General Data Protection Regulations) (GDPR) a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018, mae’r hysbysiad hwn yn nodi beth mae Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol ac Ysgol Garndolbenmaen yn ei wneud gyda gwybodaeth bersonol a pherfformiad plant a phobl ifanc, ac unrhyw wybodaeth bersonol sy’n ymwneud â chi fel rhiant / gwarcheidwad. Bydd yr wybodaeth yn yr hysbysiad hwn yn cael ei adolygu er mwyn cynnwys unrhyw newidiadau pellach a ddarparwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae'r categorïau gwybodaeth am ddisgyblion yr ydym yn eu casglu, eu dal a'u rhannu yn cynnwys:

  • Gwybodaeth bersonol (megis enw, rhif unigryw disgybl a chyfeiriad)
  • Nodweddion (megis ethnigrwydd, iaith, cenedligrwydd, gwlad enedigol a chymhwysedd pryd ysgol am ddim)
  • Gwybodaeth am bresenoldeb (megis nifer y sesiynau a fynychwyd, nifer yr absenoldebau a rhesymau dros absenoldeb)
  • Gwybodaeth am asesiadau
  • Gwybodaeth feddygol berthnasol
  • Gwybodaeth am Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Gwybodaeth am waharddiadau/ymddygiad
  • Gwybodaeth bersonol am rieni'r disgybl a/neu berthnasau eraill (megis enw, manylion cyswllt, perthynas â'r plentyn)

Pam yr ydym yn casglu a defnyddio'r wybodaeth hon
Rydym yn defnyddio data disgybl:

  • i gefnogi addysg y disgybl
  • i fonitro ac adrodd ar gynnydd y disgybl
  • i ddarparu gofal bugeiliol priodol
  • i asesu ansawdd ein gwasanaethau
  • i gydymffurfio â’r gyfraith ynglŷn â rhannu data
  • i rannu data ar gyfer archwiliadau statudol a dibenion archwilio

Y sail gyfreithlon pam yr ydym yn defnyddio'r wybodaeth hon:
Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am ddisgyblion, staff a llywodraethwyr dan

  • Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 2011
  • Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Disgybl) (Cymru) 2011
  • Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011
  • Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 2011
  • Rheoliadau Addysg (Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion) (Cymru) 2011
  • Deddf Cyflogau a Thelerau Gwaith Athrawon 1991
  • Cytundebau cyfunol Cenedlaethol Rhwng Cyngor Awdurdod Addysg Lleol ac Undebau Athrawon Cydnabyddedig
  • Cytundebau Cyfunol Lleol Rhwng Awdurdod Addysg Gwynedd ac Undebau a Gydnabyddir gan yr Awdurdod ar gyfer trafodaethau ar ran Athrawon.
  • Deddf Diogelu Data 1998
  • Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012
  • Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol A’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
  • Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014
  • Ddeddf Iechyd a Diogelwch Wrth Waith ayb1974 (Health and Safety at Work, etc. Act, 1974)
  • Deddf Cydraddoldeb / Equality Act 2010
  • Gorchymyn Rheoleiddio (Diogelwch Tan)2005/ Regulatory Reform (Fire Safety) Order 2005 ( ffurflenni PEEPS yn cael eu cwblhau ac mae rhain yn cynnwys manylion unrhyw anableddau sydd gan blentyn/staff)
  • Erthygl 6(c) ac (e) ac Erthygl 9 (g) (GDPR)
  • Gallwn hefyd ddefnyddio caniatâd ar adegau (e.e. ffotograffau)

Casglu gwybodaeth am ddisgyblion:
Er bod y mwyafrif o wybodaeth am ddisgybl yr ydych yn ei darparu i ni yn orfodol, darperir ychydig ohoni i ni ar sail wirfoddol.

Er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data, byddwn yn eich hysbysu p'un a fydd yn ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth benodol i ni am ddisgybl neu os oes gennych ddewis yn hyn.

Os darperir gwybodaeth i ni ar sail wirfoddol, byddwn yn gofyn i chi roi caniatâd penodol ac yn rhoi'r opsiwn i chi dynnu'r caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.

Cadw data am ddisgyblion:
Rydym yn cadw data am ddisgyblion am gyfnodau amrywiol o amser yn dibynnu beth yw'r wybodaeth.  Mae cyfnodau cadw wedi'i gynnwys ym mholisi diogelu data yr ysgol.

Gyda phwy yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion:
Rydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion yn rheolaidd gyda:

  • ysgolion a fynychwyd gan y disgyblion ar ôl ein gadael
  • ein hawdurdod addysg lleol  - Cyngor Gwynedd – Gwasanaethau - Cymdeithasol, Hamdden, Cludiant, Cyllid, Ieuenctid.

Asiantaethau a gomisiynir gennym i ddarparu gwasanaethau ar ein rhan :

  • Llywodraeth Cynulliad Cymru (drwy HWB)
  • Byrddau Arholi
  • Colegau Addysg Bellach
  • Prifysgol Bangor, a sefydliadau eraill addysg Uwch yn Nghymru a Prydain fawr a phrifysgolion sydd yn rhan o rhaglen SEREN Llywodraeth Cymru
  • Cwmni Cynnal/Gwe
  • Heddlu a Thîm Troseddu’r Ifanc
  • Gwasanaethau Iechyd
  • Antur Waunfawr (gwaredu deunyddiau cyfrinachol)

Cwmnïau Perthnasol sy’n hybu gweinyddiaeth a phrofiadau addysg disgylbion

  • Urdd Gobaith Cymru
  • CAPITA - SIMS
  • PIXEL
  • Schow my Home work
  • Class Charts
  • School Gateway
  • FFTrust
  • ALPs
  • INCERTS
  • Text to parents
  • Parent Mail
  • Cunninghams – school meals
  • EVOLVE
  • Easy Trip
  • Purple Mash
  • Reading egg
  • My Maths
  • TT Rock Stars

Pam yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion:
Nid ydym yn rhannu gwybodaeth am ein disgyblion gydag unrhyw un heb ganiatâd, oni bai bod y gyfraith a'n polisïau yn caniatáu i ni wneud hynny.

Rydym yn rhannu data am ddisgyblion gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) ar sail statudol. Mae rhannu data yn y modd hwn yn tanategu cyllid yr ysgol a pholisi a monitro cyrhaeddiad addysgol.

Ysgolion a gynhelir:
Mae'n ofynnol i ni rannu gwybodaeth am ein disgyblion gyda'n hawdurdod lleol (ALl)  Cyngor Gwynedd a Llywodraeth y Cynulliad dan:   Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Disgybl) (Cymru) 2011    15

Gofynion casglu data:
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Disgybl) (Cymru) 2011
Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 2011

Gofyn am fynediad at eich data personol:
Dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan rieni a disgyblion yr hawl i ofyn am fynediad at y wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanynt. Er mwyn gwneud cais am eich gwybodaeth bersonol, neu ofyn am fynediad at gofnod addysgol eich plentyn, cysylltwch â Bethan Wyn Jones (Pennaeth)
Swyddog Diogelu Data Ysgolion
Cyngor Gwynedd
Stryd y Castell
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

Mae gennych hefyd yr hawl i:

  • wrthwynebu i ddata personol gael ei brosesu sy'n debygol o achosi, neu sy'n achosi, niwed neu ofid
  • atal unrhyw beth rhag cael ei brosesu er dibenion marchnata uniongyrchol
  • gwrthwynebu i benderfyniadau gael eu gwneud gan ddulliau awtomataidd
  • cywiro, rhwystro, dileu neu ddinistrio data personol anghywir, mewn amgylchiadau penodol; a
  • hawlio iawndal am y niwed a achoswyd o ganlyniad i dorri rheoliadau Diogelu Data

Os oes gennych bryder ynglŷn â'r modd yr ydym yn casglu neu'n defnyddio eich data personol, gofynnwn i chi nodi eich pryder gyda ni i ddechrau. Fel arall, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy https://ico.org.uk/concerns/

Cysylltu
Os hoffech drafod unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â:
Pennaeth Ysgol Waunfawr: Mrs Bethan Wyn Jones  neu cysylltwch a:-
Swyddog Diogelu Data Ysgolion
Cyngor Gwynedd
Stryd y Castell
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH